Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, ac mae mewn prifddinas hardd a ffyniannus.
Daeth ein gwaith ymchwil rhagorol yn 5ed am ansawdd ac yn 2il am effaith ymysg prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysgol rhagorol i'n myfyrwyr a recriwtio myfyrwyr o bob haen o gymdeithas.
Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau yn rhan hanfodol o bwy ydym. Ein huchelgais yw cydweithio’n agos gyda phrifysgolion rhyngwladol i hyrwyddo ymchwil, rhannu ymarfer gorau o ran addysgu a rheoli, a sefydlu ein safle fel prifysgol fyd-eang.
Drwy roi pwyslais ar greadigrwydd a chwilfrydedd, ein nod yw cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Caerdydd.
---------------------------------------
Cardiff University is an ambitious and innovative university with a bold and strategic vision located in a beautiful and thriving capital city.
Our world-leading research was ranked 5th amongst UK universities in the 2014 Research Excellence Framework for quality and 2nd for impact.
Cardiff University is committed to providing an educationally outstanding experience for our students and to recruiting students from all strata of society.
Our global community, reputation and partnerships are at the heart of our identity. Our ambition is to form tightly knit collaborations with international universities in order to promote research, share best practice in teaching and management, and establish our position as a global university.
Driven by creativity and curiosity, we strive to fulfil our social, cultural and economic obligations to Cardiff, Wales, and the world.
Please visit our website for more information about Cardiff University.