[Dwyieithog / Bilingual]
CYMRAEG:
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach mawr yn Abertawe, sy’n darparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau sy’n ysbrydoli ac yn cynorthwyo ein dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, gan gynnwys bron 40 pwnc Safon Uwch a 40 pwnc galwedigaethol, ynghyd â chyrsiau addysg uwch a phrentisiaethau. Mae dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser – gan gynnwys 3,000 o brentisiaid.
Mae’r Coleg yn gweithredu o saith lleoliad ar draws Abertawe, gan gynnwys Campws Tycoch a Champws Gorseinon, ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal gyda thros 1,000 o aelodau staff. Mae’r Coleg yn cymryd lles ei staff o ddifrif ac mae’n falch o fod wedi ennill Gwobrau Iechyd Corfforaethol Efydd, Arian ac Aur.
***
ENGLISH:
Gower College Swansea is a large further education college in Swansea, delivering the highest quality of education and training that inspires and supports all of our learners to achieve their full potential.
Gower College Swansea offers a wide range of full time and part time courses, including almost 40 A Level subjects and 40 vocational subject choices, alongside higher education courses and apprenticeships. There are over 4,500 full time and 8,000 part time learners – including 3,000 apprentices.
The College operates from seven locations across Swansea, including campuses at Tycoch and Gorseinon and is one of the largest employers in the region with over 1,000 staff. The College takes the wellbeing of its staff extremely seriously and is proud to have achieved Bronze, Silver, and Gold Corporate Health Awards.